Psalms 59

Gweddi am amddiffyn rhag y gelyn

I'r arweinydd cerdd: Ar yr alaw "Paid dinistrio". Salm wedi ei hysgrifennu gan Dafydd pan oedd Saul wedi anfon dynion i wylio ei dŷ er mwyn ei ladd. a

1Achub fi rhag fy ngelynion, O Dduw.
Amddiffyn fi rhag y rhai sy'n ymosod arna i.
2Achub fi rhag y bobl ddrwg yma –
y rhai sy'n ceisio fy lladd i.
3Edrych arnyn nhw'n cuddio.
Maen nhw'n barod i ymosod.
Mae dynion cas yn disgwyl amdana i,
a minnau heb wneud dim byd
i'w croesi nhw, O Arglwydd.
4Dw i ddim ar fai
ond maen nhw'n rhuthro i ymosod arna i.
Deffra! Gwna rywbeth i'm helpu!
5O Arglwydd, y Duw holl-bwerus,
ti ydy Duw Israel.
Symud! Tyrd i gosbi'r gwledydd!
Paid dangos trugaredd at y bradwyr!

 Saib
6Maen nhw'n dod allan bob nos, yn udo fel y cŵn
sy'n prowla trwy'r ddinas.
7Mae eu cegau'n glafoerio budreddi,
a'u geiriau creulon fel cleddyfau –
“Pwy sy'n clywed?” medden nhw.
8Ond rwyt ti, Arglwydd, yn chwerthin ar eu pennau.
Byddi di'n gwawdio'r cenhedloedd.
9Ti ydy fy nerth i. Dw i'n disgwyl amdanat ti.
Rwyt ti, O Dduw, fel craig ddiogel i mi.
10Ti ydy'r Duw ffyddlon fydd yn fy helpu;
byddi'n gadael i mi orfoleddu dros fy ngelynion.
11Paid lladd nhw'n syth, neu bydd fy mhobl yn anghofio'r wers.
Anfon nhw ar chwâl gyda dy nerth, cyn eu llorio nhw,
O Arglwydd, ein tarian.
12Gad iddyn nhw gael eu baglu
gan eu geiriau pechadurus
a'r pethau drwg maen nhw'n ddweud –
y balchder, y melltithion a'r celwyddau.
13Dinistria nhw yn dy lid!
Difa nhw'n llwyr!
Yna bydd pawb drwy'r byd i gyd yn gwybod
fod Duw yn teyrnasu dros bobl Jacob.

 Saib
14Maen nhw'n dod allan bob nos, yn udo fel cŵn
sy'n prowla trwy'r ddinas;
15Maen nhw'n crwydro o gwmpas yn chwilio am fwyd,
ac yn udo nes iddyn nhw gael eu bodloni.
16Ond bydda i'n canu am dy rym di,
ac yn gweiddi'n llawen bob bore am dy fod mor ffyddlon!
Rwyt ti'n graig saff i mi,
ac yn lle i mi guddio pan dw i mewn trafferthion.
17Ti ydy fy nerth i, a dw i am ganu mawl i ti!
O Dduw, rwyt fel craig ddiogel i mi – y Duw ffyddlon.
Copyright information for CYM